Hurio neu Rentu Organau

Gall hyn fod am digwyddiad ar ddiwrnod unigol neu am yr hir-dymor os yw eich offeryn yn cael ei drwsio.

Pleser yw cynnig ichi ddewis o offerynnau i'w hurio. Gall hyn fod am ddigwyddiad ar ddiwrnod unigol fel yn achos Côr Cymunedol Dartington  Cliciwch yma am wybodaeth neu am gyfnod estynedig pan fod organ bib yn cael ei thrwsio, fel yr organ ddwy-allweddell arbennig gan Mander yn Amlosgfa Llangrallo Cliciwch yma am wybodaeth

'Rydym yn deall fod pob achos yn gofyn am baramedrau unigryw , felly croesawn drafodaeth bersonol er mwyn teilwra ein dyfynbris i chi.

Bydd cost hurio organ yn ddibynnol ar sawl ffactor

  • Lleoliad y gyrchfan
  • Anhawster mynediad i'r gyrchfan
  • Hyd y cyfnod hurio
  • Yr angen am seinyddion neu fwyhaduron
  • Yr angen am offer arbennig er enghraifft tyrrau scaffald i osod seinyddion

Mae gennym opsiwn argyfwng hefyd lle y gallwn warantu cael organ yn ei lle o fewn 24 awr. Cysylltwch gydag Aled Rees neu Tony Packer am eich anghenion.

Ffôn: 01792 721499 E-bost: hurio@organauviscount.cymru